Cynhelir ein harwerthiannau o ystafell arwerthu 4000 troedfedd sgwâr yng nghanol tref Bae Colwyn, Gogledd Cymru, ac yn ein safle 6000 troedfedd sgwâr mewn parc masnachu yng Nghaerdydd.
Mae gennym hefyd swyddfa brisio yng Nghaerfyrddin, sy'n gwasanaethu Gorllewin Cymru a lle gellir asesu, prisio a chynnig eitemau ar gyfer arwerthiant gyda'n harwerthwr rhanbarthol.
Rydym yn hen law wrth werthuso a gwerthu casgliadau preifat, clirio tai a gwasgaru ystadau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth prisio cynhwysfawr at ddibenion yswiriant, profiant, adran deuluol ac ati. Mae cwmni Rogers Jones yn falch o'i berthynas â'i gwsmeriaid gan gynnwys banciau a chyfreithwyr yn ogystal â chleientiaid preifat ac, fel cwmni preifat, gallwn gynnig telerau hyblyg a chystadleuol.
Mae sawl record byd wedi’i thorri yn ein harwerthiannau gan gynnwys y pris morthwyl uchaf a gafwyd mewn arwerthiant yng Nghymru.
Heddiw, cwmni Jones yw un o’r cwmnïau arwerthu sy’n tyfu cyflymaf yn y DU, gan gynnig gwasanaeth rhagorol fel prif arwerthwyr Cymru.