Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Gemwaith a Darnau Arian, Oriorau, Gwin, Chwisgi a Nwyddau Moethus

To contact a specialist

Charles Hampshire LLB (Anrh)
ARWERTHWR RHANBARTHOL GORLLEWIN CYMRU, PRISIWR GEMWAITH, ORIORAU A CHWISGI

+447732434120

Ein cwmni ni sy’n dal y record am y pris uchaf mewn arwerthiant yng Nghymru am eitem o emwaith ac am oriawr Rolex. Mae'r farchnad ar gyfer y ddau yn eithriadol o gryf tra bod y galw am nwyddau moethus ail-law yn uchel.

Fel arwerthwyr a phriswyr, rydym yn teimlo’n gryf am y cysyniad o economi gylchol yn hytrach na’r economi linol bresennol sy’n dominyddu ein harferion gwario. Mae annog mwy o bobl i ymuno â'r diwydiant arwerthu yn her gyffrous ac yn un sydd â manteision cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr. Mae’r model economi lliniol o ‘gymryd-gwneud-gwaredu’ yn un sy’n dal i fyny’n gyflym â ni wrth i’n hadnoddau naturiol prin ddod i ben. Mae hen bethau, nwyddau retro a vintage yn ‘Wyrdd’, ac felly mae gan y diwydiant arwerthu nodweddion cynaliadwy rhagorol. Ychwanegwch at hyn y cyfle i brynu eitemau hardd o ansawdd da am bris gostyngol , ac mae 'na fanteision diamheuol i’r defnyddiwr.

Rolex Daytona Wristwatch

£46,000

Daytona

Mae hyn yn ein harwain yn braf i mewn i sector nwyddau moethus y diwydiant arwerthu sy'n un sy'n cynnig apêl a buddion gwych i brynwyr a gwerthwyr fel ei gilydd. Gyda'r farchnad adwerthu yn gwerthu nwyddau moethus am brisiau echrydus o uchel yn aml, mae llawer wedi troi at arwerthiannau a'r farchnad ail-law fel opsiwn prynu gwahanol ers troad yr 21ain ganrif.


Carties fountain pen

£1,100

Cartier fountain pen sold 1100

Mae'r mewnlifiad hwn o brynwyr newydd wedi arwain at sicrhau prisiau da mewn arwerthiannau am emwaith, bagiau llaw cynllunwyr adnabyddus a hen fagiau vintage hyd at ysgrifbinnau casgladwy, tanwyr sigaréts ac oriorau o fri. Er bod y cynnydd hwn mewn prynwyr wedi gwthio prisiau i fyny, ac o fudd i’r gwerthwr, does amheuaeth bod prynu mewn arwerthiant yn dal i fod yn llawer mwy cost effeithiol na phrynu’n newydd. Gall prynwyr chwilota mewn arwerthiannau am nwyddau mewn cyflwr rhagorol gyda tharddiad clir gan fod nifer o’r eitemau sy’n cyrraedd i’w gwerthu wedi cael un perchennog blaenorol yn unig.

Believed late 19th century early 20th century amethyst & gold parure

the necklace composed of nineteen graduated oval amethysts

£6,800

Sold 6800 BELIEVED LATE 19 TH CENTURYEARLY 20 TH CENTURY AMETHYST GOLD PARURE the necklace composed of nineteen graduated oval amethysts

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Arwerthwyr a Phriswyr Rogers Jones wedi cychwyn ar deithiau prisio rhanbarthol ar hyd a lled Cymru. Gydag ystafelloedd arwerthu yn y Gogledd a'r De, ynghyd â phriswr rhanbarthol yn y Gorllewin, rydym mewn sefyllfa berffaith i ddod â'n harbenigedd i chi. Yn ystod y digwyddiadau poblogaidd hyn, rydym bob amser yn cael gemwaith ac oriorau yn cael eu cyflwyno i ni ac, yn amlach na pheidio - diemwntau. Pan fyddwn ni'n meddwl am ddiemwntau, rydyn ni'n meddwl am foethusrwydd, am ‘glitz a glam’. Gallant hefyd greu atgofion am anwyliaid yn gwisgo modrwyau dyweddïo gwerthfawr neu oriawr coctel disglair. Mae’n bleser trin yr eitemau prydferth hyn ond mae eu deall yn allweddol i’w gwerthfawrogi.

Wedi'i ddatblygu gan Sefydliad Gemolegol America ym 1953, mae'r pedair C yn system a grëwyd i ddiffinio nodweddion diemwnt a, thrwy wneud hynny, ganfod ei werth. Mae'r system raddio hon yn hynod ddefnyddiol yn y maes arwerthu a phrisio p'un a ydych chi'n rhoi amcangyfrifon ar gyfer eu gwerthu neu'n prisio gemwaith diemwnt at ddibenion yswiriant. Mae'r pedair C yn cynnwys Lliw, Claerder, Toriad a phwysau Carat y diemwnt.

Art-Deco diamond brooch

£2,700

Art Deco Diamond Brooch 2700

Mae gan ein priswyr yn y Gogledd a'r De’r profiad a'r arbenigedd ymarferol i sicrhau bod y gemwaith sy'n cael ei anfon i'n gwahanol arwerthiannau wedi'i gatalogio'n drylwyr, waeth bynnag fo'r pwynt pris. Mae ein gwerthuswr gemwaith ac oriorau, Charles Hampshire, yn Gymrawd o’r Gymdeithas Genedlaethol Arwerthwyr a Phriswyr sy’n teimlo’n gryf am gadw safon ac arfer gorau yn ein diwydiant. Mae hefyd wedi ymgymryd â chymwysterau arbenigol gan gynnwys y cwrs dwys ar raddio ac adnabod diemwnt a gynhelir gan Gem-A yn Hatton Garden.

Gyda gwerth cerrig a metelau gwerthfawr ar hyn o bryd yn uchel iawn a gwerth miliynau o bunnoedd o emwaith yn casglu llwch gartref mewn droriau, mae'n amser delfrydol i ymchwilio i werth eich gemwaith. Boed yn prynu, gwerthu neu ddiweddaru prisiad yswiriant, byddem yn hapus i drafod eich anghenion. Rydym yn falch ein bod yn dal y record am y pris uchaf mewn arwerthiant yng Nghymru am y darn unigol o emwaith (£34,000) sy’n dangos bod gennym y wybodaeth a’r cyrhaeddiad rhyngwladol i farchnata’ch gemwaith y llwyddiannus.

Rydym yn gwerthu pethau casgladwy a phethau cofiadwy ym mhob arwerthiant Vintage a Hen Bethau yng Nghaerdydd a Bae Colwyn, tra bod eitemau pwysig neu gasgliadau sylweddol yn aml yn cael eu dewis ar gyfer ein harwerthiant Dewisiadau a Chasgliadau, deirgwaith y flwyddyn.

Isod mae rhai erthyglau sy'n ymwneud â'r farchnad hon, ynghyd â delweddau a phrisiau morthwyl o eitemau a werthwyd.

Our Expertise

Imminent Auctions

51392 0

January Bumper including the Karl Johansen Treen Collection (Part II)

31 Ionawr 2025 10:00 YB
Caerdydd

Furniture & Interiors

4 Chwefror 2025 10:00 YB
Bae Colwyn

Gwahoddir eitemau

Cyflwyno eitemau

IMG 4357

Jewellery, Collectables & Fine Art

11 Chwefror 2025 10:00 YB
Bae Colwyn

Gwahoddir eitemau erbyn 27/1/2025

Cyflwyno eitemau

Subscribe to our catalogue alerts & digital newsletter