Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Prisiadau Proffesiynol

Mae prisiadau proffesiynol ysgrifenedig yn rhan annatod o’n busnes, ac mae pobl yn ymddiried ynom i gynnal rhai cannoedd o brisiadau profiant (probate) ac yswiriant ar gyfer cleientiaid preifat a chwmnïau cyfreithiol bob blwyddyn. Gallwn roi prisiad cyfrinachol, clir a manwl gywir i chi wedi'i deilwra i'ch anghenion unigol. Mae ein ffioedd ar gyfer cynnal prisiadau proffesiynol yn hynod gystadleuol.

Prisiadau Ffurfiol ar gyfer Profiant / Yswiriant / Priodasol ac ati

Gall cwmni Rogers Jones roi prisiadau ysgrifenedig proffesiynol cywir i chi neu i gynghorwyr cyfreithiol ar gyfer eitemau sengl, casgliadau arbenigol, a chynnwys tŷ cyfan neu rhannol.

Mae gan ein gwasanaethau prisio ffurfiol (lle codir tâl amdanynt) strwythur ffioedd clir a chystadleuol, yn seiliedig ar gyfradd fesul awr o £120 yr awr ynghyd â TAW (Llun i Gwener 9am - 5pm) a £180 yr awr ynghyd â TAW (ar gyfer apwyntiadau penwythnosau neu gyda'r nos os ydi hynny’n angenrheidiol ac os ydym ar gael).

Mae cael prisiadau cyfredol yn cynnig tawelwch meddwl a hyder i deuluoedd ac unigolion, gan ffurfio rhan bwysig o'ch cynllunio ariannol.

Paratoir prisiadau at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys:

• Yswiriant - cofnod amhrisiadwy mewn achos o ladrad, colled neu ddifrod

• Adran Teuluol a Phriodasol

• Am ddosbarthu teg a chyngor diduedd

• Profiant/Treth Etifeddiant - ar gyfer ysgutorion (executors) ac ymddiriedolwyr

• Cynllunio Treth

• Prisiadau ôl-weithredol cywir

Prisiadau Anffurfiol ar gyfer eu cynnwys mewn Arwerthiant Posibl

Yn aml gallwn ddarparu prisiad anffurfiol trwy e-bost sydd bron bob amser yn rhad ac am ddim a heb unrhyw bwysau neu reidrwydd i werthu. Gallwn hefyd ymweld ag eiddo i brisio eitemau, gallwn drefnu diwrnodau prisio yn unrhyw un o'n tri safle. Rydym hefyd yn cynnal Sioeau Teithiol Prisio mewn lleoliadau lleol. Holwch, os gwelwch yn dda.

Os hoffech dderbyn prisiad anffurfiol trwy e-bost, cysylltwch â valuations@rogersjones.co.uk neu defnyddiwch y ffurflen Ymholiad Prisio / Gwerthu.

Imminent Auctions

Photoroom 20250109 173844

Jewellery, Collectables & Fine Art

21 Ionawr 2025 10:00 YB
Bae Colwyn

51392 0

January Bumper including the Karl Johansen Treen Collection (Part II)

31 Ionawr 2025 10:00 YB
Caerdydd

Furniture & Interiors

4 Chwefror 2025 10:00 YB
Bae Colwyn

Gwahoddir eitemau

Cyflwyno eitemau

Subscribe to our catalogue alerts & digital newsletter