Ffi y Prynwr
Mae yna gomisiwn a ddefnyddir gan arwerthwyr Celfyddyd Gain o'r enw’r Premiwm Prynwyr. Mae’n swm comisiwn o bris y morthwyl. Mae ein cyfraddau Premiwm Prynwyr yn amrywio yn ôl y math o arwerthiant. Byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth hon pan fyddwch yn mewngofnodi i gynnig yn fyw ar blatfform byw Rogers Jones ac wrth lenwi ffurflenni cais comisiwn neu dros y ffôn.
Droite de Suite
Codir levee o 4% ar y prynwr ar ddarnau celf gwreiddiol gan artistiaid AEE a’r DU sy’n fyw neu sydd wedi marw yn ystod y 70 mlynedd ers yr arwerthiant, ac sy’n gwerthu am bris morthwyl dros 1000 Ewro (cyfwerth â GBP ). Droit de suite - Wikipedia
Dod o hyd i eitemau
Mae ein holl arwerthiannau i'w gweld yn llawn ar ein gwefan ac ar www.the-saleroom.com
Rydym yn cynhyrchu catalog darluniadol llawn ar gyfer Yr Arwerthiant Cymreig a'r Arwerthiant Dewisiadau a Chasgliadau ar y cyd. Mae ar gael deirgwaith y flwyddyn - Gwanwyn, Haf a Hydref cyn y tair arwerthiant.
Ar gyfer ein harwerthiannau Vintage & Hen Bethau, rydym yn cynhyrchu rhestr fewnol o eitemau sydd Ii’w gweld yn yr ystafell arwerthu, am ffi fechan sy'n cael ei roi i'n helusen enwebedig.
Mae ein holl arwerthiannau ar agor i'r cyhoedd i’w gweld yn ystafelloedd arwerthu’r Gogledd a’r De drwy apwyntiad. Mae’r amseroedd gwylio yn amrywio ar gyfer pob arwerthiant, felly checiwch y rhestr werthu neu'r catalog ar-lein ar gyfer pob arwerthiant.
Tanysgrifiadau
Gallwch danysgrifio i’n catalog darluniadol llawn (tair gwaith y flwyddyn) am £40 y flwyddyn (gan gynnwys cludiant DU)
Holwch am brisiau catalog ar gyfer Ewrop a gweddill y byd
Adroddiadau Cyflwr
Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'ch eitem, gellir gofyn am adroddiad cyflwr a delweddau ychwanegol trwy e-bost, ond nid ar lafar. Sylwch nad yw disgrifiadau catalog a delweddau yn warant ac argymhellir yn gryf eich bod yn gwirio eich bod yn hapus efo’r eitem y mae gennych ddiddordeb ynddo.